Llawlyfr Dysgwyr 24
Beth yw cynghori? Weithiau cyfeirir at gynghori fel ‘therapi siarad’. Mae cynghorwyr yn defnyddio’u sgiliau i’ch helpu i ddeall yn well y materion sy’n achosi pryder i chi. Gallai’r rhain gynnwys siarad am ddigwyddiadau bywyd yn y presennol neu’r gorffennol, teimladau, perthnasoedd, a ffyrdd o feddwl neu batrymau ymddygiad. Gall cynghori eich helpu i ddod o hyd i well ffyrdd o ymdopi gydag unrhyw anawsterau y gallwch fod yn eu hwynebu. Gall cael mynediad i’ch gwasanaeth cynghori wella eich profiad fel dysgwr gan ddarparu cyfle i chi archwilio eich problemau mewn lleoliad diogel a phreifat. Mae’r tîm o gynghorwyr yn weithwyr proffesiynol tra chymwys a phrofiadol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu newid positif Gyda beth all cynghori helpu? Mae ein cynghorwyr yn brofiadol mewn gweithio gyda llawer o wahanol faterion. Mae cynghori ar gyfer unrhyw un sy’n cael anawsterau o unrhyw fath, os yw’n achosi pryder i chi yna mae o bwys. TOGETHERALL Gall pawb yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr gael mynediad i gymorth iechyd meddwl ar-lein yn rhad ac am ddim gyda Togetherall, unrhyw adeg, unrhyw ddydd. P’un a ydych chi’n brwydro i ymdopi, yn teimlo’n isel neu ddim ond angen lle i siarad, gall Togetherall eich helpu i archwilio eich teimladau mewn amgylchedd cefnogol diogel. Beth yw Togetherall? • Cymuned ar-lein lle mae aelodau yn anhysbys i’w gilydd, maen nhw’n gallu rhannu sut maen nhw’n teimlo a chefnogi ei gilydd • Mae’n darparu mynediad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn • Mae wedi’i reoli’n glinigol gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig ar gael 24/7 i gadw’r gymuned yn ddiogel • Hunanasesiadau ac adnoddau argymelledig • Offer creadigol i helpu mynegi sut rydych yn teimlo • Ystod eang o gyrsiau hunan-dywysedig i’w gwneud ar eich cyflymder eich hun Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth a’r gwasanaethau a gynigir gan y Tîm Lles trwy ymweld â’u safleoedd Google.
Profiad Dysgwyr Coleg Sir Gâr
Profiad Dysgwyr Coleg Ceredigion
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online