Llawlyfr Dysgwyr 24

CEFNOGAETH LLES

Weithiau gwneir atgyfeiriadau i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr gan eu tiwtoriaid, gan asiantaethau allanol, neu weithiau gan y dysgwyr eu hunain. Mae gennym ystod eang o gefnogaeth ar gael ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch lles. Byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol gyda chi a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y lefel gywir o gefnogaeth wedi’i rhoi ar waith, a gyda’r person cywir. Hefyd byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni symud ymlaen drwy’r flwyddyn i fonitro eich cynnydd a’ch lles cyffredinol. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn cynnwys: MENTORA Mae Mentoriaid Lles ar gael i chi ar draws yr holl gampysau ar gyfer gwaith grŵp neu gymorth 1:1 sy’n fwy ymlaciol a chyfrinachol. Hefyd mae gennym ni adnoddau ar-lein rhagorol y gallech eu cael yn ddefnyddiol iawn. Mae Mentor Lles ar gael i’ch helpu a’ch cynghori ar ystod eang o bethau a bydd yn eich cefnogi cymaint ag y gallant er mwyn goresgyn rhwystrau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Mae pob dysgwr yn gallu cael mynediad i’r cymorth, a chyhyd â bod y mentoriaid yn gwybod beth all y broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu. Maen nhw ar gael i siarad â thiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu’r hyder a’r gwytnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau pontio a gweithdai ar amrywiol bynciau i helpu adeiladu hyder a gwytnwch. Gall y gefnogaeth hon gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y Mentoriaid Lles wneud i chi. CYNGHORI Mae’r gwasanaeth cynghori yn rhan o’r Tîm Lles ac mae’n darparu cyngor i’r holl ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar unrhyw un o’r campysau ar draws y coleg.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 33

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online