Llawlyfr Dysgwyr 24

GWOBRAU CARIAD

Cyflwynwyd gwobrau Cariad y coleg ar 14eg Chwefror, 2020. Cafodd y cysyniad ei gyflwyno i gydnabod y gwaith ardderchog mae ein dysgwyr yn ei wneud sydd yn aml ddim yn cael unrhyw sylw. I dderbyn gwobr, gwneir enwebiad, caiff ei ystyried, a gwneir cyflwyniad i’r enillydd teilwng. Caiff y gwobrau eu cerfio allan o bren gan ein dysgwyr gwaith saer ar ein campws yn Rhydaman, yna cânt eu peintio gan y dysgwyr peintio ac addurno. Bydd enillwyr hefyd yn ennill bathodyn Cariad, ac ychwanegir eu manylion at y safle Google Cariad. Gyda chaniatâd rydyn ni hefyd yn rhyddhau’r newyddion drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol y coleg. Mae gennym nifer o enillwyr gwobrau hyd yma, o ddysgwyr sydd wedi helpu yn eu cymunedau dros bandemig Covid-19 a chyfnodau clo, i staff sydd wedi codi arian i elusen, ac i’r rheiny sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy wneud ‘gweithred o garedigrwydd ar hap’. Fel rhan o Cariad, fel coleg, rydyn ni’n dewis elusen genedlaethol, ac elusen ar gyfer pob un o’n saith o gampysau sy’n lleol neu’n berthnasol. Hyd yma, mae ein helusennau cenedlaethol wedi cynnwys Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. Mae ein helusennau campws wedi cynnwys Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman, Sefydliad DPJ yn y Gelli Aur, Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref (HAHAV) yn Aberystwyth, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn Aberteifi, Gofal Celf yn Ffynnon Job, MIND Cymru ym Mhibwrlwyd a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn y Graig. Rydyn ni hefyd yn cefnogi digwyddiadau elusennol traddodiadol fel Plant Mewn Angen, Comic Relief, Sport Relief, Tashwedd (Movember) ac ati. Allech chi fod yn enillydd Cariad yn 2024/25?

60 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online