Llawlyfr Dysgwyr 24
ENRICHMENT AND ACADEMIES
Yn y coleg cewch y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o raglenni, eu nod yw cyfoethogi astudiaeth academaidd, a chefnogi dilyniant i addysg uwch neu gyflogaeth. Mae rhaglenni’n cynnwys yr Academi Chwaraeon, yr Academi Berfformio a’r Academi E-chwaraeon newydd a chyffrous. Mae Academi Chwaraeon fawr ei bri’r coleg yn ymfalchïo yn ei chyn-fyfyrwyr elit sy’n cynnwys chwaraewyr rhyngwladol dros Gymru a’r Llewod Gareth Davies, Josh Adams ac Adam Jones. Os ydych wedi dewis astudio Safon Uwch, yn dibynnu ar raddau, efallai cewch gyfle i gymryd rhan yn rhaglen Mwy Galluog a Thalentog 6ed Sir Gâr, a gynlluniwyd i gefnogi dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion a chyrsiau mwyaf clodfawr y DU. Mae’r rhaglen bwrpasol hon yn anelu at ddatblygu eich profiadau academaidd a diwylliannol er mwyn darparu mantais gystadleuol i chi pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer addysg uwch. Yn dibynnu ar eich rhaglen astudio, cewch gyfle i ddysgu dramor ac ennill profiad rhyngwladol hanfodol. Mae astudio dramor yn cynnig cyfleoedd adeiladu gyrfa unigryw a bydd yn eich helpu i ddatblygu llu o sgiliau newydd, a dealltwriaeth well o ddiwylliannau eraill. Yn 2023, ymwelodd dysgwyr ar draws y coleg â Chanada, Fietnam, De Affrica, yr Eidal, Sbaen a Sweden. I gael gwybodaeth bellach ar unrhyw un o raglenni cyfoethogi’r coleg, cliciwch y ddolen isod neu siaradwch â’ch tiwtor personol.
Cyfoethogi ac Academïau
Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 57
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online