Llawlyfr Dysgwyr 24

CROESO

Croeso i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae cyflawni rhagoriaeth ac ysbrydoli dysgwyr wrth wraidd y coleg. Caiff yr egwyddorion sylfaenol hyn eu gyrru gan staff ymroddedig, gwybodus a phrofiadol sy’n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial. Er mwyn cyflawni hyn, maen nhw’n darparu heriau a chefnogaeth hefyd i sicrhau bod yr amser rydych yn ei dreulio yn y coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus yn ogystal. Byddwn yn tanio eich uchelgais ac yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i’ch galluogi i fod yn llwyddiannus. Mae’r Coleg yn lle gwych i astudio a datblygu eich gyrfa. Mae ganddo gysylltiadau eithriadol â chyflogwyr ac mae wrth wraidd y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Mae’n sefydliad gofalgar, yn helpu i lunio a chefnogi dysgwyr i ymdrechu am yr hyn maen nhw eisiau bod a’r hyn maen nhw am ei gyflawni yn eu bywydau. Rydyn ni wedi teilwra cyrsiau i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y budd mwyaf o’r hyfforddiant o’r radd flaenaf, profiadau rhagorol a’r cyfleusterau sydd gan y coleg i’w cynnig. Hefyd mae cyrsiau gennym sy’n cynnig y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n wir yn ddwyieithog. Mae llawer o ddysgwyr yn mynd ymlaen i lefelau dysgu uwch, gan gynnwys y brifysgol, dilyn llwybrau prentisiaeth neu i

ddechrau eu busnes eu hunain. Byddwn ni’n eich paratoi chi’n dda ar gyfer byd gwaith. Mae llawer o’n dysgwyr yn awr mewn gyrfaoedd proffesiynol sy’n rhychwantu’r DU ac mewn rhai achosion, y byd. Byddwch yn barod i weithio’n galed a chael hwyl. Bydd y cyfleoedd mae’r coleg yn eu darparu yn eich grymuso i ffynnu, gan ddatblygu sgiliau gydol oes a fydd yn eich galluogi i groesawu’r heriau a ddaw i’ch rhan yn y dyfodol, tra’n dathlu’r llwyddiant a’r gwobrau anochel a ddaw yn sgil gyrfa lewyrchus. Rwy’n dymuno’r gorau i chi ar eich taith gyda ni. Dr Andrew Cornish Prif Weithredwr / Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 05

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online