Llawlyfr Dysgwyr 24

CYLLID

Mae sut y byddwch chi’n eich cynnal eich hun yn ariannol drwy gydol eich amser yn y coleg yn rhywbeth yr ydym yn eich annog i wneud cyn gynted â phosibl. Mae yna nifer o grantiau, benthyciadau a chronfeydd ar gael ar gyfer myfyrwyr yn dibynnu ar ba gwrs maen nhw’n astudio. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer pob un ohonynt; yn anffodus efallai na fydd rhai dysgwyr yn gymwys i dderbyn unrhyw un. Fel arfer, gallwch ddechrau gwneud cais am eich cyllid myfyriwr yn y mis Ebrill cyn i chi ddechrau, ond gallwch chi ddal i wneud cais bron hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae gennym dîm cyfeillgar o Swyddogion Lles ar gael i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl arian sydd ar gael i chi I gael cymorth ariannol neu gyngor, ymwelwch â’r Tîm Lles ar eich campws neu drwy e-bostio: * financialsupport@colegsirgar.ac.uk * financialsupport@ceredigion.ac.uk O fewn addysg bellach, mae tri phrif fath o gyllid ar gael. Dau trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru (SFW), y Lwfans Cynnal Addysg (EMA) ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) ar gyfer myfyrwyr 19+ oed. Mae digon o ffurflenni cais ar gyfer y rhain gennym yn ein swyddfeydd Tîm Lles a’n swyddfeydd campws. Y cyllid arall sydd ar gael yw trwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn y coleg (FCF). Mae’r gronfa hon yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i un o’r cynlluniau Cyllid Myfyrwyr Cymru a restrir uchod a gall helpu gyda chost cyfarpar hanfodol, costau gofal plant, DBS, ffi stiwdio, teithio (os na fedrwch gael mynediad i wasanaeth cludiant y coleg) a chostau byw cyffredinol. Gallwch chi wneud cais am hyn drwy Google classroom pwrpasol drwy glicio ar y dolenni Cronfa Ariannol wrth Gefn (FCF) isod neu ddefnyddio’r codau sydd ar gael ar safle Google y Tîm Lles. Yn ogystal fe welwch chi god QR ar eich campws y byddwch yn gallu sganio i gael mynediad i’r ffurflen y mae angen i chi ei chwblhau. Cofiwch, os ydych chi (neu eich rhieni/gwarcheidwaid os yn berthnasol) angen unrhyw gyngor ac arweiniad, help gyda llanw neu wirio ffurflenni cyn eu cyflwyno, mae’r Swyddogion Lles yn barod i helpu. Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad i’r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi. Cyllid ar gyfer Addysg Bellach | Cyllid Myfyrwyr Cymru

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online