Llawlyfr Dysgwyr 24

DATBLYGU SGILIAU LLYTHRENNEDD A RHIFEDD

Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich astudiaethau, sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol, ac ar gyfer twf personol. Fel coleg, rydyn ni’n ymrwymedig i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol hyn ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster. Bydd pob dysgwr yn dilyn “Llwybr Sgiliau”, wedi’i seilio ar eich anghenion unigol a’i lywio gan eich graddau blaenorol, lle bo modd. Waeth beth fo’ch man cychwyn, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich llythrennedd a’ch rhifedd, i sicrhau eich bod wedi’ch paratoi yn dda ar gyfer symud ymlaen i’r lefel nesaf o astudio a/neu gyflogaeth. Unwaith eich bod wedi cofrestru, mae angen i chi gwblhau Asesiad Cychwynnol WEST, sy’n nodi eich lefelau llythrennedd a rhifedd cyfredol ac sy’n hysbysu’r coleg ynghylch unrhyw feysydd sydd angen eu datblygu. Mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r asesiad WEST, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchiad cywir o’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd eich tiwtor yn eich cefnogi drwy’r Asesiad Cychwynnol pan fyddwch yn dechrau yn y coleg. Defnyddir yr offeryn WEST hefyd i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd yn barhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch chi gael mynediad i’r offeryn WEST i ymarfer eich sgiliau sydd angen eu datblygu ymhellach. Bydd hyn hefyd yn gwella eich cyflawniad ar eich prif gymhwyster, gan fod sgiliau llythrennedd a rhifedd yn

drosglwyddadwy ar draws eich astudiaethau i gyd. Cofiwch, “llythrennedd + rhifedd = llwyddiant!”

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online