Llawlyfr Dysgwyr 24

02 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

CYNNWYS

Tudalen

Croeso Teithiau Campws Cod Ymddygiad Presenoldeb Dyddiadau Cynefino Cardiau Adnabod Myfyrwyr Cymorth TG Digidol - Google/WIFI Ap y Coleg Byddwch yn Ddiogel Cymorth i Ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

4 6 8 11

13 15 17 21

22 26 28 32 35 37 39 40 43 46 49 52 54 56 58 59 60 61 62 64 67 68 70 72

Cefnogaeth Lles Dwyieithrwydd Datblygu Llythrennedd a Rhifedd AI Cynhyrchiol Llythrennedd Digidol Cyllid Cludiant Myfyrwyr Byddwch yn Uchelgeisiol Cymorth Llyfrgell Cyfleoedd Llysgenhadon Cyfoethogi ac Academïau Byddwch Actif a Gwobr Dug Caeredin Clybiau a Chymdeithasau Gwobrau Cariad Bywyd Campws Llais y Dysgwr - CYSYLLTU Undeb y Myfyrwyr Cardiau NUS Ystafelloedd Gweddïo Aml-ffydd Cwestiynau Cyffredin Beth sydd angen i chi wneud nesaf?

Rwyf wedi cael yr amser mwyaf anhygoel; yn cwrdd â phobl newydd a phrofi gwahanol gyfleoedd.

04 Croeso

CROESO

Croeso i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae cyflawni rhagoriaeth ac ysbrydoli dysgwyr wrth wraidd y coleg. Caiff yr egwyddorion sylfaenol hyn eu gyrru gan staff ymroddedig, gwybodus a phrofiadol sy’n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial. Er mwyn cyflawni hyn, maen nhw’n darparu heriau a chefnogaeth hefyd i sicrhau bod yr amser rydych yn ei dreulio yn y coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus yn ogystal. Byddwn yn tanio eich uchelgais ac yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i’ch galluogi i fod yn llwyddiannus. Mae’r Coleg yn lle gwych i astudio a datblygu eich gyrfa. Mae ganddo gysylltiadau eithriadol â chyflogwyr ac mae wrth wraidd y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Mae’n sefydliad gofalgar, yn helpu i lunio a chefnogi dysgwyr i ymdrechu am yr hyn maen nhw eisiau bod a’r hyn maen nhw am ei gyflawni yn eu bywydau. Rydyn ni wedi teilwra cyrsiau i sicrhau bod ein dysgwyr yn cael y budd mwyaf o’r hyfforddiant o’r radd flaenaf, profiadau rhagorol a’r cyfleusterau sydd gan y coleg i’w cynnig. Hefyd mae cyrsiau gennym sy’n cynnig y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n wir yn ddwyieithog. Mae llawer o ddysgwyr yn mynd ymlaen i lefelau dysgu uwch, gan gynnwys y brifysgol, dilyn llwybrau prentisiaeth neu i

ddechrau eu busnes eu hunain. Byddwn ni’n eich paratoi chi’n dda ar gyfer byd gwaith. Mae llawer o’n dysgwyr yn awr mewn gyrfaoedd proffesiynol sy’n rhychwantu’r DU ac mewn rhai achosion, y byd. Byddwch yn barod i weithio’n galed a chael hwyl. Bydd y cyfleoedd mae’r coleg yn eu darparu yn eich grymuso i ffynnu, gan ddatblygu sgiliau gydol oes a fydd yn eich galluogi i groesawu’r heriau a ddaw i’ch rhan yn y dyfodol, tra’n dathlu’r llwyddiant a’r gwobrau anochel a ddaw yn sgil gyrfa lewyrchus. Rwy’n dymuno’r gorau i chi ar eich taith gyda ni. Dr Andrew Cornish Prif Weithredwr / Pennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 05

06 Teithiau Campws

TEITHIAU CAMPWS

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnwys saith o gampysau ar draws De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Mae pob campws wedi’i gynllunio’n ofalus a’i gyfarparu â chyfleusterau addysgu ag adnoddau da sy’n cefnogi dysgu mewn ystod eang o feysydd pwnc. Cyn eich bod yn dechrau eich cwrs, cymerwch ychydig o amser i archwilio bob campws trwy wylio ein fideos o’r campysau. Os ydych chi am, gallwch chi hefyd wylio bob campws mewn taith 360°.

Aberteifi

Rhydaman

Aberystwyth

Y Graig

Y Gelli Aur

Ffynnon Job

360°

Pibwrlwyd

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 7

08 Cod Ymddygiad

COD YMDDYGIAD

Mae ein Cod Ymddygiad yn seiliedig ar dair egwyddor a chafodd ei ysgrifennu ar y cyd â’n Hundeb Myfyrwyr. Credwn trwy ddilyn y setiau rheolau sylfaenol hyn, fod ein coleg yn amgylchedd hapusach a mwy diogel i bawb.

BYDDWCH YN BAROD • Byddwch yn bresennol ym mhob gwers. • Byddwch yn brydlon i bob gwers.

• Cymerwch ran lawn yn eich cwrs gan gynnwys tiwtorialau, cyfarwyddyd gyrfaol, ymweliadau, profiad gwaith ac unrhyw

gymorth ychwanegol a drefnir ar eich cyfer. • Dewch â’r offer cywir ar gyfer pob gwers. • Anelwch at ragoriaeth ym mhopeth a wnewch.

• Cwblhewch eich holl waith erbyn y terfynau amser cytunedig. • Gwnewch gynnydd yn erbyn unrhyw dargedau a gytunwyd ac a osodwyd. • Cydweithiwch â myfyrwyr eraill i gyflawni eich cyrchnodau. • Byddwch yn bresennol ym mhob arholiad / asesiad yr ydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer. • Rhowch wybod am unrhyw absenoldeb trwy gysylltu â swyddfa eich campws cyn 10am ar bob dydd yr ydych yn absennol. • Defnyddiwch y cyfleusterau TG fel yr amlinellir yn y Polisi Defnydd TG Derbyniol yn unig. • Diffoddwch bob ffôn symudol mewn ardaloedd dysgu [h.y. ystafelloedd dosbarth neu ganolfannau adnoddau dysgu] oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tiwtor a defnyddiwch eich ffôn symudol mewn ffordd briodol yn unig yn ardaloedd cyffredin y myfyrwyr. • Cadwch at y rheolau ymddygiad ar gludiant y coleg, ymweliadau addysgol ac mewn ardaloedd cyffredin fel llyfrgelloedd a ffreuturau.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 09

BYDDWCH YN BARCHUS • Dangoswch barch tuag at yr holl staff, myfyrwyr a’r gymuned leol wrth i chi ymwneud a siarad â nhw. • Parchwch ymrwymiad y Coleg i gydraddoldeb a pheidiwch â gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion. • Peidiwch â defnyddio iaith dramgwyddus. • Ysmygwch a fepiwch yn y cysgodfannau ysmygu/fêpio dynodedig yn unig. • Gwerthfawrogwch amgylchedd y coleg trwy beidio â gollwng sbwriel. • Peidiwch â difrodi dodrefn neu adeiladau’r coleg. • Dylech osgoi gwisgo dillad â sloganau neu logos tramgwyddus. BYDDWCH YN DDIOGEL • Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw weithred neu fygythiad o drais, bwlio, brawychu neu gam-drin geiriol. • Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl o gael niwed. • Peidiwch â dod ag unrhyw eitemau y gellid eu hystyried yn arf i’r coleg neu i’r gwaith - er enghraifft cyllyll, drylliau. • Peidiwch byth â dod â chyffuriau neu alcohol i dir ac adeiladau’r coleg neu fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol. • Defnyddiwch y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel. • Cadwch eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr (ID) gyda chi bob amser pan fyddwch yn y coleg.

10 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

11 Presenoldeb

PRESENOLDEB

Mae mynychu’r coleg yn hanfodol i’ch llwyddiant. Os nad ydych yn mynychu, rhowch wybod i ni. Byddwn yn cysylltu â chi ar ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb ac os bydd eich presenoldeb yn disgyn yn is na 80% ar gyfer yr wythnos. Yn ogystal, gwyliwch y fideo presenoldeb yma i gael trosolwg o’r hyn i’w wneud.

Coleg Sir Gâr

Coleg Ceredigion

Byddwch wedi derbyn llythyr wrth gofrestru sy’n rhoi gwybod i chi pryd mae eich diwrnod cyntaf yn y coleg.

12 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

13 Dyddiadau Cynefino

DYDDIADAU CYNEFINO

Dydd Llun 2 il Medi i ddydd Mawrth 3 ydd Medi: Dysgwyr newydd (Mynediad, Lefel 1, Lefel 2, Lefel 3, TAG Uwch Gyfrannol) Dydd Mercher 4ydd Medi: Dysgwyr 2 il flwyddyn sy’n dychwelyd (Lefel 3 Blwyddyn 2, Safon Uwch) Dydd Iau 5 ed Medi i ddydd Gwener 6 ed Medi: Parhau â Chynefino/dechrau dysgu yn ôl yr amserlen i’r holl ddysgwyr AB

15 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

14 Cardiau Adnabod Myfyrwyr

STUDENT ID CARDS

GWISGWCH EICH CERDYN ADNABOD BOB AMSER

16 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

Mae fy nhaith hyd yma wedi bod yn ddim byd llai nag anhygoel.

17 Cymorth TG

CYMORTH TG

Arweiniad, awgrymiadau a syniadau datrys problemau

Actifadu eich cyfrif coleg a gosod cyfrinair Cyn eich bod yn dechrau’r coleg, mae’n bwysig eich bod yn actifadu eich cyfrif coleg ac yn gosod cyfrinair. I wneud hynny, dilynwch y broses hon: • Ewch i’r URL hwn: https://password.colegsirgar.ac.uk/activate neu cliciwch • Rhowch eich enw defnyddiwr • Dywedwch wrthym sut rydych am dderbyn eich cod gwirio - trwy e-bost neu neges destun? • Teipiwch y cod gwirio yn y blwch a chliciwch ‘Check Code’ • Gosodwch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif Coleg (a chofiwch ef, os gwelwch yn dda!) Wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch chi ailosod eich cyfrinair trwy ddilyn y broses hon Rhaid i chi wybod eich enw defnyddiwr y byddwch chi wedi’i dderbyn mewn e-bost. Os nad ydych yn ei wybod yna gofynnwch i’ch darlithydd. • Ewch i’r URL hwn: https://password.colegsirgar.ac.uk/sspr/public/forgottenpassword neu cliciwch • Rhowch eich enw defnyddiwr • Cliciwch Chwilio (Search) • Bydd angen i chi ddewis y dull rydych chi eisiau ar gyfer cyfathrebu, naill ai e-bost personol neu SMS • Rhowch y cod rydych chi’n ei dderbyn yn y blwch a ddarperir • Gosodwch gyfrinair newydd Cyfrinair Wedi’i Anghofio

Actifadu

18 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

Rydych chi angen newid eich cyfeiriad e-bost personol neu rif ffôn symudol personol sydd wedi’u cadw ar system y Coleg. Mae’r system actifadu cyfrif a chyfrinair a anghofiwyd yn dibynnu ar y wybodaeth gywir sy’n cael ei storio yn EBS, felly mae’n hanfodol bod y wybodaeth hon yn gywir. Os ydych yn credu bod y wybodaeth rydyn ni wedi’i storio yn anghywir cysylltwch â’r swyddfa gampws agosaf er mwyn ei diweddaru. Os ydych yn rhoi eich cyfrinair yn anghywir 5 gwaith mewn 10 munud fe fydd yn eich cloi allan o’ch cyfrif Dylai cyfrifon ddatgloi eu hunain yn awtomatig ar ôl 5 munud. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn digwydd, e-bostiwch: helpdesk@ colegsirgar.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a nodwch fod angen datgloi’r cyfrif. Gallai fod eich bod wedi anghofio eich cyfrinair ac yna bydd angen ei ailosod gan ddefnyddio’r broses dolen cyfrinair a anghofiwyd (fel uchod). Mewngofnodi i Google Os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi i’ch cyfrif Google Coleg, dilynwch y broses hon: • Ewch i https://mail.google.com/mail neu cliciwch Cliciwch Sign in yn y gornel dde uchaf (os ydych eisoes wedi mewngofnodi gyda’ch cyfrif personol, bydd angen i chi allgofnodi o’r cyfrif hwnnw yn gyntaf) • Rhowch y cyfeiriad E-bost ar gyfer mewngofnodi i Google: username@colegsirgar.ac.uk neu username@ceredigion.ac.uk • Yna, cewch eich ailgyfeirio i’r dudalen Single sign on • Rhowch Enw Defnyddiwr: • Rhowch Gyfrinair: Nawr rydych chi wedi mewngofnodi i Google Google Mail

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 19

Gosod Dilysiad 2-Gam (2FA neu MFA) Fel rhan o’n hymrwymiad i achrediad hanfodion seiber, mae’n ofynnol i chi osod Gosod Dilysiad 2-Gam ) (2FA) i gyrchu eich cyfrif Google. Mae’r cam ychwanegol hwn mewn diogelwch wedi dod yn gyffredin wrth gyrchu pob math o gyfrifon ar y we - gan leihau’r risg o ymosodiadau seiber a chadw eich data’n ddiogel. Sut i osod 2FA • Gosod 2FA ar gyfer Google: https://support.google.com/accounts/answer/185839 neu cliciwch • Gosod dilysydd Google: https://support.google.com/accounts/answer/1066447 neu cliciwch Beth mae hyn yn ei olygu i chi: Mae’n bwysig gwybod y bydd 2FA ond yn berthnasol i’ch cyfrif Google ac nid yw’n berthnasol i: • Fewngofnodi i gyfrifiadur coleg • Unrhyw system goleg arall nad yw’n gofyn am ddilysiad Google Wrth fewngofnodi i Google, byddwch yn mynd drwy’r weithdrefn 2FA arferol - ‘tecstio cod’ neu drwy ddefnyddio ap dilysydd. Ein cyngor fyddai i chi ddefnyddio’r ap dilysydd Google. Sut bynnag, mae cymorth ar gael bob amser naill ai’n bersonol yn y ddesg gymorth TG (Campws y Graig) neu drwy e-bostio: helpdesk@colegsirgar.ac.uk neu drwy ffonio 01554 748089 Google Authenticator

2FA

20 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

DIGIDOL - GOOGLE/WIFI

Beth allwn ni gynnig i helpu gyda’ch taith ddysgu? Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion rydyn ni’n defnyddio technolegau cwmwl Google i gynorthwyo gyda’n holl addysgu a dysgu. Efallai bod llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r technolegau hyn, sy’n wych, ond os na fe fydd digon o amser ac ymarfer i ddod yn gyfarwydd â’r offer newydd hyn. Felly, pa fath o offer Google fyddwch chi’n eu defnyddio? Byddwch chi’n defnyddio Google Classroom yn bennaf, sy’n siop-un stop ar gyfer eich holl wybodaeth dosbarth. Dyna lle bydd eich holl aseiniadau a gwaith yn cael eu postio ynghyd ag adnoddau addysgu oddi wrth eich darlithwyr.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 21

Sut fydda i’n cynhyrchu fy ngwaith fy hun? Yr offer Google byddwch yn defnyddio’n bennaf ar gyfer creu eich gwaith ysgrifenedig fydd Google Docs, Google Slides a Google Sheets. Gan eu bod yn rhaglenni sail-cwmwl, golyga hyn eich bod yn gallu cael mynediad iddynt unrhyw le ar unrhyw adeg cyhyd â bod mynediad gennych i ddyfais. Mae hyd yn oed yn bosibl gweithio ar y dogfennau hyn all-lein ac yna gallant ddiweddaru pan fydd eich dyfais yn cysylltu â’r rhyngrwyd. Mae gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cael mynediad i’ch gwaith pan fyddwch chi eisiau a phan fyddwch chi angen yn athroniaeth bwysig o eiddo’r coleg. Mae’r offer hyn yn wych ar gyfer cydweithio gydag eraill ac maen nhw’n caniatáu i’ch darlithwyr adael adborth ar eich gwaith o fewn y dogfennau eu hunain. Offer eraill a fydd ar gael i chi eu defnyddio fel myfyriwr Fel myfyriwr, bydd gennych gyfrif Gmail hefyd, a bydd hwn yn lletya unrhyw hysbysiadau neu gyfathrebiadau ffurfiol. Yna ceir Google Chat a ddefnyddir ar draws y coleg, sy’n offeryn cyfathrebu sydd â naws mwy cymdeithasol iddo. Mae offer sail-cwmwl eraill gan Google yn cynnwys cael eich mynediad cyfrif myfyriwr eich hun i Jamboard, YouTube, Google Maps, Google Keep, Google Forms a Google Meet i enwi ond ychydig.

22 | Learner Handbook 2024

22 Ap y Coleg

AP Y COLEG

Ewch ati i lawrlwytho ap swyddogol Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion a chael cymaint mwy o’ch bywyd coleg.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am: • Ddigwyddiadau coleg • Cyhoeddiadau pwysig • Cefnogaeth Ychwanegol i Ddysgwyr • Disgowntiau a buddion myfyrwyr

• Gwybodaeth iechyd a lles • Cyngor ac arweiniad gyrfaol • A llawer mwy! Nodweddion yr ap • Gweld eich amserlen • Rhoi gwybod am absenoldeb • Derbyn hysbysiadau

• Cael newyddion a diweddariadau cyffredinol y coleg a phenodol i’r cwrs • Creu ac ymuno â grwpiau sy’n gysylltiedig ag astudio, hobïau neu ddiddordebau • Dysgu am ddigwyddiadau sydd ar ddod • Dod i wybod am weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt • Cael mynediad cyflym i godau buddion a dolenni i fyfyrwyr • Anfon negeseuon yn uniongyrchol at fyfyrwyr eraill • Mwynhau rhwydwaith preifat diogel

Cliciwch isod i lawrlwytho’r ap

24 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

Cysylltu eich dyfais â rhwydwaith Wifi y Coleg - eduroam • Lawrlwythwch yr Ap fel y dangosir uchod • Agorwch yr Ap • Dewiswch eich sefydliad: Coleg Sir Gâr • Rhowch eich enw defnyddiwr rhwydwaith yn y fformat: username@colegsirgar.ac.uk neu username@ceredigion.ac.uk

• Rhowch eich cyfrinair rhwydwaith • Cliciwch ar: Connect to Network

Argraffu yn y Coleg Fel dysgwr byddwch yn cael £25 o gredyd argraffu dros y flwyddyn academaidd fel a ganlyn:

Tymor 1 - £10 Tymor 2 - £10 Tymor 3 - £5

Mae’r costau argraffu fesul tudalen fel a ganlyn:

Math A4

A3

Mono 3p

6p

Lliw 15p

30p

Gellir prynu credyd ychwanegol ar y campws drwy’r llyfrgell neu’r swyddfa gampws.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 25

26 Byddwch yn Ddiogel

BYDDWCH YN DDIOGEL

Rydym eisiau i’n HOLL fyfyrwyr fod yn ddiogel a rhoi gwybod i ni os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw mewn perygl o gael niwed. Mae gennym bolisïau clir iawn ar Amddiffyn Plant ac Amddiffyn oedolion sy’n Agored i Niwed. Mae hyn yn golygu, os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael niwed neu mewn perygl o gael niwed, rydyn ni am i chi ddweud wrth aelod o staff. Yn yr achos hwn gall niwed olygu cam-drin corfforol (cael eich taro), cam-drin geiriol (cael eich bwlio neu fygwth), cam-drin ariannol (rhywun yn cymryd eich arian) neu gam-drin rhywiol. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi, neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl o gael niwed, DYWEDWCH WRTH AELOD O STAFF. Bydd staff yn trin unrhyw beth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol, nid yw hyn yn golygu y gallant ei gadw’n gyfrinachol oherwydd efallai y bydd angen iddynt ei adrodd wrth aelod o staff a enwir sy’n gyfrifol am ddiogelu, ond ni fydd y wybodaeth yn cael ei gwneud yn hysbys yn ehangach. Mewn rhai achosion, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i adrodd am faterion wrth yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol. Cofiwch, gallwch chi siarad ag unrhyw aelod staff am eich pryderon, neu os hoffech chi gysylltu’n uniongyrchol ag aelod o’r Tîm Diogelu, fe welwch eu manylion cyswllt isod, ar wefan y coleg, ac yn gyraeddadwy trwy godau QR ar bosteri ar draws y coleg cyfan. Cofiwch, gallwch chi siarad âg UNRHYW aelod staff os oes pryderon gennych a gallwch chi bob amser e-bostio’r cyfrifon canlynol a bydd un o’r tîm diogelu yn cysylltu â chi:

* besafe@colegsirgar.ac.uk * besafe@ceredigion.ac.uk

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 27

28 Cymorth i Ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

CYMORTH I DDYSGWYR AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

• Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm pwrpasol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol gyda staff ar gael ar bob campws. • Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda staff cwricwlwm i sicrhau bod addysgu a dysgu yn hygyrch i bob dysgwr. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen i chi gael mynediad i gymorth ychwanegol gan eich bod yn ymdopi’n dda â darpariaeth gyffredinol (cymorth sydd ar gael i bob dysgwr). • Os oes angen darpariaeth ychwanegol arnoch chi, efallai y gallwch chi gael mynediad i sesiynau addysgu arbenigol gyda’n tîm i’ch cefnogi yn eich astudiaethau. Gallwn ddysgu strategaethau a thechnegau i chi i gefnogi eich dysgu gan gynnwys sut i ddefnyddio technoleg gynorthwyol (fel meddalwedd darllen). • Mae’r holl gymorth yn berson-ganolog ac wedi’i gynllunio er mwyn meithrin eich annibyniaeth yn y coleg a thu hwnt. • Mae ein llyfryn ‘Cymorth i Ddysgwyr’ yn cynnwys mwy o wybodaeth:

Coleg Sir Gâr

Coleg Ceredigion

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 29

Gwybodaeth i bob dysgwr: Mae ein timau yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn y dosbarth yn ystod y broses gynefino . Byddwn yn esbonio ein gwasanaeth ac yn eich cefnogi i lenwi Holiadur Cymorth Dysgu i gyd yn ymwneud â’ch proffil dysgu. Rhaid i bob dysgwr lenwi’r holiadur er mwyn ein helpu ni i ddarparu amgylchedd cynhwysol i chi yn y coleg. Yn ogystal, byddwn yn dangos i chi sut i drefnu apwyntiad ar eich campws a gallwch ofyn cwestiynau i ni am gymorth. Beth sydd angen i mi ei wneud? Os oes gennych angen dysgu ychwanegol (ADY) ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw: 1. Cysylltu â’r Cydlynydd Cymorth Dysgu ar gyfer eich campws i drafod eich anghenion cymorth. Gallwch chi wneud hyn nawr neu ar ôl yr Holiadur Cymorth Dysgu pan fydd e-bost cadarnhau yn cael ei anfon atoch a’n manylion cyswllt. Y Graig: * andrea.sykes@colegsirgar.ac.uk Rhydaman: * laura.main@colegsirgar.ac.uk Pibwrlwyd / Y Gelli Aur: * andrea.graydon@colegsirgar.ac.uk Ffynnon Job: * julia.green@colegsirgar.ac.uk Aberystwyth: * brian.nabney@ceredigion.ac.uk Aberteifi: * darren.sykes-wilks@ceredigion.ac.uk

30 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

2. Os oes angen addasiadau arholiad arnoch yn y coleg (fel 25% o amser ychwanegol, darllenydd, ac ati): • Rhaid i chi fynychu addysgu Cymorth Dysgu yn rheolaidd fel bod ein staff yn dod i’ch adnabod chi a’ch ffordd arferol o weithio mewn coleg. • Lle bo modd, dewch â Ffurflen 8 o’r ysgol (neu goleg blaenorol) ynghyd â chopi o dystysgrif yr aseswr. Dylech allu cael y rhain gan Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol (neu’r coleg blaenorol). Nid yw’r wybodaeth hon fel rheol yn cael ei throsglwyddo’n awtomatig o’r ysgol. • Mae angen i ni brosesu eich cais o leiaf 3 mis cyn dyddiad yr arholiad cyntaf.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 31

Mae’r profiad yn y flwyddyn gyntaf wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder oherwydd gall mynd i amgylchedd newydd fod yn frawychus.

32 Cefnogaeth Lles

CEFNOGAETH LLES

Weithiau gwneir atgyfeiriadau i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr gan eu tiwtoriaid, gan asiantaethau allanol, neu weithiau gan y dysgwyr eu hunain. Mae gennym ystod eang o gefnogaeth ar gael ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch lles. Byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol gyda chi a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y lefel gywir o gefnogaeth wedi’i rhoi ar waith, a gyda’r person cywir. Hefyd byddwn ni’n gweithio gyda chi wrth i ni symud ymlaen drwy’r flwyddyn i fonitro eich cynnydd a’ch lles cyffredinol. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth yn cynnwys: MENTORA Mae Mentoriaid Lles ar gael i chi ar draws yr holl gampysau ar gyfer gwaith grŵp neu gymorth 1:1 sy’n fwy ymlaciol a chyfrinachol. Hefyd mae gennym ni adnoddau ar-lein rhagorol y gallech eu cael yn ddefnyddiol iawn. Mae Mentor Lles ar gael i’ch helpu a’ch cynghori ar ystod eang o bethau a bydd yn eich cefnogi cymaint ag y gallant er mwyn goresgyn rhwystrau sy’n effeithio ar eich astudiaethau. Mae pob dysgwr yn gallu cael mynediad i’r cymorth, a chyhyd â bod y mentoriaid yn gwybod beth all y broblem fod, byddant yn gwneud eu gorau i helpu. Maen nhw ar gael i siarad â thiwtoriaid ar eich rhan os nad ydych yn hyderus eto, ac yna byddant yn gweithio gyda chi i ddatblygu’r hyder a’r gwytnwch i symud ymlaen mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau pontio a gweithdai ar amrywiol bynciau i helpu adeiladu hyder a gwytnwch. Gall y gefnogaeth hon gael effaith bositif ar eich profiad yn y coleg, felly beth am alw heibio a dweud helo a dod i wybod beth gall y Mentoriaid Lles wneud i chi. CYNGHORI Mae’r gwasanaeth cynghori yn rhan o’r Tîm Lles ac mae’n darparu cyngor i’r holl ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru ar unrhyw un o’r campysau ar draws y coleg.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 33

Beth yw cynghori? Weithiau cyfeirir at gynghori fel ‘therapi siarad’. Mae cynghorwyr yn defnyddio’u sgiliau i’ch helpu i ddeall yn well y materion sy’n achosi pryder i chi. Gallai’r rhain gynnwys siarad am ddigwyddiadau bywyd yn y presennol neu’r gorffennol, teimladau, perthnasoedd, a ffyrdd o feddwl neu batrymau ymddygiad. Gall cynghori eich helpu i ddod o hyd i well ffyrdd o ymdopi gydag unrhyw anawsterau y gallwch fod yn eu hwynebu. Gall cael mynediad i’ch gwasanaeth cynghori wella eich profiad fel dysgwr gan ddarparu cyfle i chi archwilio eich problemau mewn lleoliad diogel a phreifat. Mae’r tîm o gynghorwyr yn weithwyr proffesiynol tra chymwys a phrofiadol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu newid positif Gyda beth all cynghori helpu? Mae ein cynghorwyr yn brofiadol mewn gweithio gyda llawer o wahanol faterion. Mae cynghori ar gyfer unrhyw un sy’n cael anawsterau o unrhyw fath, os yw’n achosi pryder i chi yna mae o bwys. TOGETHERALL Gall pawb yng Ngholeg Ceredigion a Choleg Sir Gâr gael mynediad i gymorth iechyd meddwl ar-lein yn rhad ac am ddim gyda Togetherall, unrhyw adeg, unrhyw ddydd. P’un a ydych chi’n brwydro i ymdopi, yn teimlo’n isel neu ddim ond angen lle i siarad, gall Togetherall eich helpu i archwilio eich teimladau mewn amgylchedd cefnogol diogel. Beth yw Togetherall? • Cymuned ar-lein lle mae aelodau yn anhysbys i’w gilydd, maen nhw’n gallu rhannu sut maen nhw’n teimlo a chefnogi ei gilydd • Mae’n darparu mynediad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn • Mae wedi’i reoli’n glinigol gyda gweithwyr proffesiynol hyfforddedig ar gael 24/7 i gadw’r gymuned yn ddiogel • Hunanasesiadau ac adnoddau argymelledig • Offer creadigol i helpu mynegi sut rydych yn teimlo • Ystod eang o gyrsiau hunan-dywysedig i’w gwneud ar eich cyflymder eich hun Gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth a’r gwasanaethau a gynigir gan y Tîm Lles trwy ymweld â’u safleoedd Google.

Profiad Dysgwyr Coleg Sir Gâr

Profiad Dysgwyr Coleg Ceredigion

35 Dwyieithrwydd

DWYIEITHRWYDD

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau dwyieithog ac felly credwn y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae gennych yr hawl i fyw eich bywyd yn y Coleg trwy gyfrwng y Gymraeg cymaint â thrwy gyfrwng y Saesneg ac rydym yn eich annog i fod yn falch o’r iaith Gymraeg. Gwnewch hynny ar bob cyfle megis: • Drwy’r coleg i gyd - ar hyd coridorau ac yn yr ardaloedd cymdeithasol • Wrth weithio, ac wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig • Wrth dderbyn cefnogaeth gan gynghorwr, mewn cyfarfodydd a gyda’ch tiwtor personol • Mewn gohebiaeth ac wrth gyflwyno ffurflenni cais • ym mhobman arall! I ddarganfod mwy am yr hyn rydyn ni fel tîm yn gallu gwneud i’ch cefnogi, Cliciwch ar y swigen siarad Cymraeg i gyrchu ein fideo croesawu (os i ffwrdd o’r campws bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair coleg).

36 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

37 Datblygu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd

DATBLYGU SGILIAU LLYTHRENNEDD A RHIFEDD

Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich astudiaethau, sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol, ac ar gyfer twf personol. Fel coleg, rydyn ni’n ymrwymedig i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol hyn ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster. Bydd pob dysgwr yn dilyn “Llwybr Sgiliau”, wedi’i seilio ar eich anghenion unigol a’i lywio gan eich graddau blaenorol, lle bo modd. Waeth beth fo’ch man cychwyn, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich llythrennedd a’ch rhifedd, i sicrhau eich bod wedi’ch paratoi yn dda ar gyfer symud ymlaen i’r lefel nesaf o astudio a/neu gyflogaeth. Unwaith eich bod wedi cofrestru, mae angen i chi gwblhau Asesiad Cychwynnol WEST, sy’n nodi eich lefelau llythrennedd a rhifedd cyfredol ac sy’n hysbysu’r coleg ynghylch unrhyw feysydd sydd angen eu datblygu. Mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn gwneud pob ymdrech i gwblhau’r asesiad WEST, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchiad cywir o’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd eich tiwtor yn eich cefnogi drwy’r Asesiad Cychwynnol pan fyddwch yn dechrau yn y coleg. Defnyddir yr offeryn WEST hefyd i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd yn barhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch chi gael mynediad i’r offeryn WEST i ymarfer eich sgiliau sydd angen eu datblygu ymhellach. Bydd hyn hefyd yn gwella eich cyflawniad ar eich prif gymhwyster, gan fod sgiliau llythrennedd a rhifedd yn

drosglwyddadwy ar draws eich astudiaethau i gyd. Cofiwch, “llythrennedd + rhifedd = llwyddiant!”

39 AI Cynhyrchiol

AI CYNHYRCHIOL

41 Llythrennedd Digidol

LLYTHRENNEDD DIGIDOL

43 Cyllid

CYLLID

Mae sut y byddwch chi’n eich cynnal eich hun yn ariannol drwy gydol eich amser yn y coleg yn rhywbeth yr ydym yn eich annog i wneud cyn gynted â phosibl. Mae yna nifer o grantiau, benthyciadau a chronfeydd ar gael ar gyfer myfyrwyr yn dibynnu ar ba gwrs maen nhw’n astudio. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer pob un ohonynt; yn anffodus efallai na fydd rhai dysgwyr yn gymwys i dderbyn unrhyw un. Fel arfer, gallwch ddechrau gwneud cais am eich cyllid myfyriwr yn y mis Ebrill cyn i chi ddechrau, ond gallwch chi ddal i wneud cais bron hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae gennym dîm cyfeillgar o Swyddogion Lles ar gael i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn yr holl arian sydd ar gael i chi I gael cymorth ariannol neu gyngor, ymwelwch â’r Tîm Lles ar eich campws neu drwy e-bostio: * financialsupport@colegsirgar.ac.uk * financialsupport@ceredigion.ac.uk O fewn addysg bellach, mae tri phrif fath o gyllid ar gael. Dau trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru (SFW), y Lwfans Cynnal Addysg (EMA) ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) ar gyfer myfyrwyr 19+ oed. Mae digon o ffurflenni cais ar gyfer y rhain gennym yn ein swyddfeydd Tîm Lles a’n swyddfeydd campws. Y cyllid arall sydd ar gael yw trwy Gronfa Ariannol Wrth Gefn y coleg (FCF). Mae’r gronfa hon yn benodol ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i un o’r cynlluniau Cyllid Myfyrwyr Cymru a restrir uchod a gall helpu gyda chost cyfarpar hanfodol, costau gofal plant, DBS, ffi stiwdio, teithio (os na fedrwch gael mynediad i wasanaeth cludiant y coleg) a chostau byw cyffredinol. Gallwch chi wneud cais am hyn drwy Google classroom pwrpasol drwy glicio ar y dolenni Cronfa Ariannol wrth Gefn (FCF) isod neu ddefnyddio’r codau sydd ar gael ar safle Google y Tîm Lles. Yn ogystal fe welwch chi god QR ar eich campws y byddwch yn gallu sganio i gael mynediad i’r ffurflen y mae angen i chi ei chwblhau. Cofiwch, os ydych chi (neu eich rhieni/gwarcheidwaid os yn berthnasol) angen unrhyw gyngor ac arweiniad, help gyda llanw neu wirio ffurflenni cyn eu cyflwyno, mae’r Swyddogion Lles yn barod i helpu. Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad i’r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi. Cyllid ar gyfer Addysg Bellach | Cyllid Myfyrwyr Cymru

Cysylltwch â Swyddog Lles y campws perthnasol ar gyfer unrhyw gymorth GRAIG A FFYNNON JOB Debbie Williams Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Heol Sandy, Llanelli SA15 4DN ) 01554 748036 / 07443 352745 * debbie.williams@colegsirgar.ac.uk PIBWRLWYD / RHYDAMAN / Y GELLI AUR Eleri Evans Coleg Sir Gâr, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin SA31 2NH ) 01554 748613 / 07785 448958 * eleri.evans@colegsirgar.ac.uk ABERYSTWYTH / ABERTEIFI Ffion Evans ) 01970 639700 / 07443 352674 Coleg Ceredigion, Campws Aberystwyth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3BP * ffion.evans@ceredigion.ac.uk

Dolenni Classroom Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF)

Classroom FCF Aberystwyth

Cod defnyddio: ozr3uxw

Classroom FCF Rhydaman

Cod defnyddio: 3xg6lut

Classroom FCF Aberteifi

Cod defnyddio: lgzeion

Classroom FCF Y Gelli Aur

Cod defnyddio: 7yyrddu

Classroom FCF Graig

Cod defnyddio: srao5bh

Classroom FCF Fynnon Job

Cod defnyddio: w62iwg6

Classroom FCF Pibwrlwyd

Cod defnyddio: oobhm5o

46 Cludiant Myfyrwyr

CLUDIANT MYFYRWYR

COLEG SIR GÂR

Cais am Docyn Teithio’r Coleg ar Rwydwaith Bysiau’r Coleg 2024-2025 Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am gludiant myfyrwyr bob blwyddyn. Ni chaiff ei gario ymlaen. Gallwch chi wneud cais am docyn teithio’r coleg yn ystod cofrestru, does dim ffurflen gais ar wahân. Os ydych yn ddysgwr addysg bellach llawn amser ac mae eisoes gennych eich enw defnyddiwr coleg, gallwch chi wneud cais am gludiant myfyrwyr trwy fynd i’r wefan hon https://apply.colegsirgar.ac.uk/ Os nad ydych wedi cofrestru ar eich cwrs eto, e-bostiwch admissions@colegsirgar.ac.uk i wirio statws eich cais am gwrs. Os oes gennych chi bas ysgol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2024-25 bydd angen i chi ei ddychwelyd i’r cyngor neu ni fyddwn yn gallu rhoi tocyn teithio coleg. Ni fyddwn yn gallu rhoi tocyn teithio coleg os ydych ar y rhestr o rai â phas ysgol dilys ar gyfer 2024-25. Byddwn yn e-bostio chi gyda’r newyddion diweddaraf ynghylch eich cais am gludiant myfyrwyr. Os nad ydych yn gymwys i gael cludiant myfyrwyr yn rhad ac am ddim, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hunan i deithio i’ch campws ac yn ôl. Ni allwn ad-dalu eich costau. Cais am Gludiant Anghenion Ychwanegol 2024-25 Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am gludiant myfyrwyr bob blwyddyn. Ni chaiff ei gario ymlaen. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom Mwy o Wybodaeth I weld gwybodaeth gyfoes ar gludiant myfyrwyr ac amserlenni bysiau, ewch i wefan Coleg Sir Gâr: Cludiant Myfyrwyr Contact Us Coleg Sir Gâr Transport Unit * transportunit@colegsirgar.ac.uk

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 47

COLEG CEREDIGION

Gwneud Cais am Gludiant O fis Medi 2024, dim ond dysgwyr 16 i 18 oed fydd yn gymwys ar gyfer cludiant myfyrwyr. Os nad ydych yn gymwys, anfonwch neges e-bost i admissions@colegceredigion.ac.uk i gael gwybodaeth bellach. Rhaid i ddysgwyr newydd a dysgwyr sy’n dychwelyd wneud cais am gludiant bob blwyddyn. Ni chaiff ei gario ymlaen. Rhaid gwneud cais am docynnau bws drwy eich cyfrif coleg Prospect yn https://apply.ceredigion.ac.uk/ fel rhan o’r broses gofrestru ar-lein. Os nad ydych wedi cofrestru ar eich cwrs eto, e-bostiwch admissions@colegceredigion.ac.uk i wirio statws eich cais am gwrs. Cludiant Anghenion Ychwanegol: dysgwyr 16 i 18 oed Gall dysgwyr ag anghenion ychwanegol fod yn gymwys i gael darpariaeth tacsi neu fws, yn amodol ar dystiolaeth ategol berthnasol. Caiff y ceisiadau eu hystyried ar sail unigol. Anfonwch neges e-bost i admissions@colegceredigion.ac.uk i gael gwybodaeth bellach. Gwybodaeth bellach I weld gwybodaeth gyfoes ar gludiant ac amserlenni bysiau, ewch i wefan Coleg Ceredigion: Cludiant Myfyrwyr

Cysylltu â ni: * admissions@colegceredigion.ac.uk

48 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

49 Byddwch yn Uchelgeisiol

BE AMBITIOUS

Rydych chi wedi dechrau coleg, beth sydd nesa! Gadewch i ni Fod yn Uchelgeisiol

Mae gwobrau Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm Byddwch yn Uchelgeisiol yn ffordd wych i gael cydnabyddiaeth o’ch sgiliau a’ch profiad. Drwy’r wobr gallwch chi hefyd ddatblygu a dangos sgiliau newydd i wneud argraff ar gyflogwyr, prifysgolion neu i’ch helpu i gynllunio, sefydlu a rhedeg eich busnes eich hun. Caiff holl ddysgwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion y cyfle i gwblhau ein Gwobr Cyflogadwyedd Byddwch yn Uchelgeisiol yn ystod eu hamser gyda ni. Ein nod ar gyfer y Wobr Byddwch yn Uchelgeisiol yw cynyddu eich ymwybyddiaeth, gwybodaeth a sgiliau er mwyn llwyddo ym myd gwaith. Mae cwblhau’r Wobr Byddwch yn Uchelgeisiol yn broses tri cham syml: Archwilio Archwiliwch pwy ydych chi a darganfyddwch eich pwrpas. Paratoi Paratowch ac arloeswch eich agweddau tuag at waith a hunangyflogaeth. Cysylltu Gwnewch gysylltiadau a rhwydweithiwch â chyfleoedd. Caiff y rhaglen hon ei chwblhau yn ystod y rhaglen diwtorial a gweithdai dosbarth. Ar gwblhau pob gwobr, bydd dysgwyr yn derbyn bathodyn a thystysgrif i adlewyrchu eich cyflawniadau allgyrsiol. Pwy sydd yma i helpu? Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich gyrfa. Byddwn yn dechrau eich cefnogi o’ch diwrnod cyntaf yn y coleg tan eich diwrnod olaf. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud y gorau o’ch amser yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Dewch yn rhan o’n cymuned, ymunwch â’n hystafell ddosbarth a chysylltwch â’n hanogwyr Cyflogadwyedd i ddechrau eich dyfodol heddiw!

Safle google Byddwch yn Uchelgeisiol

Ymunwch a’n Dosbarth Google

Bwciwch 1:1 gydag aelod o’r Tîm Byddwch Yn Uchelgeisiol

Rhestr ddarllen y llyfrgell

Dewch i gwrdd â’r tîm

Becky Pask Cydlynydd Entrepreneuriaeth a Chyflogadwyedd * becky.pask@colegsirgar.ac.uk

Ffion Kennett Anogwr Cyflogadwyedd ) 8044 * ffion.kennett@colegsirgar.ac.uk

Ffordd wych o gael profiadau ymarferol, gwerth chweil yw cael rhywfaint o waith rhan-amser neu wirfoddol i gyd-fynd â’ch astudiaethau. Cofrestrwch gyda’n dosbarth Swyddi Myfyrwyr ar-lein i archwilio opsiynau gwaith hyblyg. Bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eich CV wrth i chi ennill rhywfaint o arian. Gall ein hanogwr Cyflogadwyedd hefyd eich helpu i ddod o hyd i swydd barhaol pan fyddwch chi’n gorffen eich astudiaethau. Cystadleuaeth Sgiliau Cymru Rydym yn falch iawn o’n llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau Cymru, y DU a WorldSkills. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi ennill medalau mewn ystod eang o sectorau, sydd wedi eu rhoi ar y blaen ar gyfer y farchnad swyddi. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n aliniedig â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru. Mae cystadlaethau sgiliau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid godi eu proffil drwy gystadlu ar draws ystod o sectorau. Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau yn rhad ac am ddim ac fel rheol cânt eu cynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bob blwyddyn.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 51

52 Cymorth Llyfrgell Rwyf wedi mwynhau fy amser yn astudio yma yn fawr ac rwy’n edrych ymlaen at fy siwrnai yn y dyfodol.

CYMORTH LLYFRGELL

“Gwasanaeth ffantastig, ystod wych o lyfrau a phopeth yn hawdd ei ddefnyddio” adborth myfyrwyr diweddar Heb ddefnyddio llyfrgell o’r blaen? Nawr yw’r amser... Ffaith - y llyfrgell yw Y lle ar gyfer.. • Astudio • Croeso ! • Gofyn ‘Sut ydw i’n ?” • Cael cymorth gydag ymchwil • Adnoddau gallwch chi ymddiried ynddynt yn hollol • Dod o hyd i gasgliad bendigedig o lyfrau ar eich pwnc craidd - a mwy • Casgliad syfrdanol o e-lyfrau (llyfrau heb y llyffetheiriau!) • Casgliad newydd o e-lyfrau lle gellir gwneud yr holl destun yn ystyriol o ddyslecsia a lle gellir ei newid i’r Gymraeg ac i ieithoedd eraill • Bod yn dawel • Anelu’n uwch - herio eich hunan a mwy... • Llyfr ffuglen i ymlacio â • Staff sy’n gwybod eu stwff, y mae ots ganddynt ac maen nhw’n gallu eich helpu chi gyda • “Dyfodol / Future” - adnoddau i’ch helpu chi i fod yn bopeth y gallwch chi fod • “Lles / Wellbeing” - llyfrau sy’n gallu eich helpu gyda phob agwedd ar iechyd meddwl • Gemau ymennydd, posau a mwy yn “Fy Man i / My Zone” • Gwella eich graddau - mae defnyddio adnoddau’r llyfrgell yn cael effaith mawr i gael mynediad i Safle Google y Llyfrgell (os i ffwrdd o’r campws bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair coleg). Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01554 748082 neu * library@colegsirgar.ac.uk Darganfyddwch beth sy’n digwydd drwy ein cyfrifon Facebook a Twitter - dilynwch ni ar: @colegsirgarlibrary @CSGLibrary • Cystadlaethau gyda gwobrau I ddarganfod mwy, cliciwch yma • Defnyddio cyfrifiadur • Argraffu a llungopïo • Arddangosfeydd ar bynciau defnyddiol a diddorol

54 Cyfleoedd Llysgenhadon

CYFLEOEDD LLYSGENHADON

Os ydych yn fyfyriwr y flwyddyn gyntaf yn astudio ar raglen lefel tri, efallai eich bod am wneud cais i fod yn rhan o Raglen Ysgoloriaeth Llysgennad y coleg. Os ydych chi’n gyfathrebwr hyderus ac mae gennych chi brofiad o gefnogi eraill, neu os ydych chi wedi cyfrannu at fywyd cymunedol yn yr ysgol yn flaenorol, gall hyn fod yn gyfle ardderchog i chi ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth a chyfathrebu ymhellach. Hefyd bydd dal swydd llysgennad myfyrwyr yn profi’n fanteisiol pan fyddwch yn cyflwyno ceisiadau ar gyfer y brifysgol neu gyflogaeth. Fel llysgennad myfyrwyr, byddwn ni’n eich talu i gefnogi adeg digwyddiadau megis nosweithiau agored, wythnosau agored rhithwir ac ymweliadau ag ysgolion, yn ogystal â chroesawu ymwelwyr pwysig i’r coleg. Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig 60 o ysgoloriaethau bob blwyddyn. Mae yna broses ymgeisio a chyfweld yn ogystal â diwrnod hyfforddi ar ddechrau’r rhaglen. Meddai’r llysgennad myfyrwyr, Jenna Loweth: “Mae helpu eraill yn rhywbeth rwyf bob amser wedi teimlo’n frwd yn ei gylch. Rwyf am sicrhau bod y pontio i gymuned y coleg mor hawdd ag y gall fod, ac i wneud yn siŵr bod yr holl ddymuniadau ac anghenion posibl yn cael eu cwmpasu mewn ffyrdd sy’n gwneud i bobl deimlo’n fwyaf cyfforddus.” I gael mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Llysgennad ar gyfer 2024 2025 sganiwch y cod QR isod i weld y manylion pellach ac i wneud cais.

Cyfleoedd Llysgenhadon

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 55

Yn ogystal, roedd bod yn rhan o’r academi ochr yn ochr â’r cwrs wedi helpu i fagu fy hyder ac roedd yn ffordd wych o wneud ffrindiau y tu allan i’m dosbarthiadau.

56 Cyfoethogi ac Academïau

ENRICHMENT AND ACADEMIES

Yn y coleg cewch y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o raglenni, eu nod yw cyfoethogi astudiaeth academaidd, a chefnogi dilyniant i addysg uwch neu gyflogaeth. Mae rhaglenni’n cynnwys yr Academi Chwaraeon, yr Academi Berfformio a’r Academi E-chwaraeon newydd a chyffrous. Mae Academi Chwaraeon fawr ei bri’r coleg yn ymfalchïo yn ei chyn-fyfyrwyr elit sy’n cynnwys chwaraewyr rhyngwladol dros Gymru a’r Llewod Gareth Davies, Josh Adams ac Adam Jones. Os ydych wedi dewis astudio Safon Uwch, yn dibynnu ar raddau, efallai cewch gyfle i gymryd rhan yn rhaglen Mwy Galluog a Thalentog 6ed Sir Gâr, a gynlluniwyd i gefnogi dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion a chyrsiau mwyaf clodfawr y DU. Mae’r rhaglen bwrpasol hon yn anelu at ddatblygu eich profiadau academaidd a diwylliannol er mwyn darparu mantais gystadleuol i chi pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer addysg uwch. Yn dibynnu ar eich rhaglen astudio, cewch gyfle i ddysgu dramor ac ennill profiad rhyngwladol hanfodol. Mae astudio dramor yn cynnig cyfleoedd adeiladu gyrfa unigryw a bydd yn eich helpu i ddatblygu llu o sgiliau newydd, a dealltwriaeth well o ddiwylliannau eraill. Yn 2023, ymwelodd dysgwyr ar draws y coleg â Chanada, Fietnam, De Affrica, yr Eidal, Sbaen a Sweden. I gael gwybodaeth bellach ar unrhyw un o raglenni cyfoethogi’r coleg, cliciwch y ddolen isod neu siaradwch â’ch tiwtor personol.

Cyfoethogi ac Academïau

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 57

LLES ACTIF A GWOBR DUG CAEREDIN

Mae Lles Actif yn rhan bwysig iawn o fywyd coleg, ac rydyn ni’n ceisio annog pob myfyriwr ar bob campws a chwrs I fanteisio’n llawn ar yr amrywiol gynigion er mwyn cyfoethogi eu profiad yn y coleg. Lles Actif wedi esblygu i fod yn rhaglen sydd wedi’i chynllunio’n benodol i fyfyrwyr (ac yn aml gan fyfyrwyr) i barhau ar y siwrnai actif honno yn y coleg - yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a thu hwnt. Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn lles actif; chwaraeon tîm, dosbarthiadau amser cinio, sesiynau galw heibio, gwersi wedi’u hamserlennu, cydio a mynd, cystadlaethau, digwyddiadau, gwirfoddoli a mwy. Rydyn ni’n cyflwyno cyfarpar a gweithgareddau newydd yn gyson a byddwn yn edrych ar badlfyrddio, tag laser a heriau Blazepod yn 2024/25. Sefydlwyd y rhaglen Lles Actif yng Ngholeg Sir Gâr yn 2009. Mae’r tîm yn rhan o’r Tîm Lles, a chaiff ei arwain gan ein cydlynydd Kayleigh Brading. Yn ogystal Kayleigh yw’r rheolwr Gwobr Dug Caeredin ar gyfer y coleg, a chaiff ei chefnogi gan dîm o staff sy’n helpu hwyluso gweithgareddau dros bob un o saith o gampysau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae cyfleoedd hefyd yn bodoli I gyflawni gwobrau efydd ac aur Dug Caeredin tra rydych yn y coleg. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yn Ffair y Glas ac yn y sgyrsiau cynefino yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, neu, gallwch chi bob amser siarad ag aelod o’r tîm Lles Actif neu e-bostio Kayleigh * kayleigh.brading@colegsirgar.ac.uk

58 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

CLYBIAU A CHYMDEITHASAU

Anogir clybiau, grwpiau a chymdeithasau newydd ar draws yr holl gampysau. Mae clybiau diweddar wedi cynnwys Clwb Ffilm, Clwb Dungeons and Dragons, Gwyddbwyll, Uno, grŵp Her Blazepod, Clwb Rhithwir, a llawer mwy. Yn syml, rydyn ni am i chi ddweud wrthym ba grwpiau neu glybiau hoffech chi eu creu a bydd y Tîm Lles yn gwneud eu gorau i helpu sefydlu a hwyluso hyn. Yn aml, mae’r clybiau hyn angen cyllid o ryw fath i brynu cyfarpar er enghraifft, ac mae Undeb Myfyrwyr y coleg yn awyddus i helpu lle y gall gyda’i gyllid. Yn ogystal â’r clybiau chwaraeon a chymdeithasol, mae hefyd gennym grwpiau’n cynnwys LGBTQ+, Anabl, Amgylcheddol, Gofalwyr Ifanc, yr Undeb Cristnogol, Niwroamrywiol ac ystod gyfan o rai eraill y gallech chi ymuno â nhw pe bai diddordeb gennych. Mae rhai grwpiau’n benodol i gampws, ond mae bod ar-lein yn galluogi’r grwpiau hyn i gwrdd lan, waeth beth fo’u lleoliad. Mae hyn yn cryfhau’r gymuned ac yn caniatáu i’r grwpiau dyfu’n fwy, ac yn eu tro, yn gryfach. Os hoffech chi sefydlu eich grŵp eich hun, cysylltwch ag Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr, y Cydlynydd Byddwch Actif neu’r Swyddog Lles ar eich campws. Bydd calendr hefyd yn cael ei rannu bob mis gyda’r holl weithgareddau allgyrsiol sy’n digwydd.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 59

GWOBRAU CARIAD

Cyflwynwyd gwobrau Cariad y coleg ar 14eg Chwefror, 2020. Cafodd y cysyniad ei gyflwyno i gydnabod y gwaith ardderchog mae ein dysgwyr yn ei wneud sydd yn aml ddim yn cael unrhyw sylw. I dderbyn gwobr, gwneir enwebiad, caiff ei ystyried, a gwneir cyflwyniad i’r enillydd teilwng. Caiff y gwobrau eu cerfio allan o bren gan ein dysgwyr gwaith saer ar ein campws yn Rhydaman, yna cânt eu peintio gan y dysgwyr peintio ac addurno. Bydd enillwyr hefyd yn ennill bathodyn Cariad, ac ychwanegir eu manylion at y safle Google Cariad. Gyda chaniatâd rydyn ni hefyd yn rhyddhau’r newyddion drwy sianelau cyfryngau cymdeithasol y coleg. Mae gennym nifer o enillwyr gwobrau hyd yma, o ddysgwyr sydd wedi helpu yn eu cymunedau dros bandemig Covid-19 a chyfnodau clo, i staff sydd wedi codi arian i elusen, ac i’r rheiny sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy wneud ‘gweithred o garedigrwydd ar hap’. Fel rhan o Cariad, fel coleg, rydyn ni’n dewis elusen genedlaethol, ac elusen ar gyfer pob un o’n saith o gampysau sy’n lleol neu’n berthnasol. Hyd yma, mae ein helusennau cenedlaethol wedi cynnwys Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. Mae ein helusennau campws wedi cynnwys Sefydliad Jac Lewis yn Rhydaman, Sefydliad DPJ yn y Gelli Aur, Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref (HAHAV) yn Aberystwyth, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn Aberteifi, Gofal Celf yn Ffynnon Job, MIND Cymru ym Mhibwrlwyd a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn y Graig. Rydyn ni hefyd yn cefnogi digwyddiadau elusennol traddodiadol fel Plant Mewn Angen, Comic Relief, Sport Relief, Tashwedd (Movember) ac ati. Allech chi fod yn enillydd Cariad yn 2024/25?

60 | Llawlyfr Dysgwyr 2024

BYWYD CAMPWS

Cliciwch ar y delweddau canlynol i ddarganfod beth sy’n digwydd ar eich campws. Byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o wybodaeth am eich campws gan gynnwys clybiau a grwpiau, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, Cymorth Ariannol, dyddiadau talu Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA), Lles Actif a’ch Tîm Lles. Rhai o’r clybiau fydd yn cael eu cynnig fydd clwb Creadigol, Undeb Cristnogol, Gwau, Gwyddbwyll, LGBTQ+, Neuro D, Jiwdo Sir Gâr, Dungeons and Dragons a llawer mwy. Dyma gyfle i chi wneud ffrindiau newydd neu roi cynnig ar rywbeth newydd. Cysylltwch â’ch tîm lles os hoffech sefydlu grŵp newydd ar eich campws a byddwn yn gwneud ein gorau i’w drefnu!

Aberteifi

Rhydaman

Aberystwyth

Y Graig

Y Gelli Aur

Ffynnon Job

Sir Gar 6

Pibwrlwyd

(Safon Uwch)

62 Llais y Dysgwr: Cysylltu

LLAIS Y DYSGWR: CYSYLLTU

Mae eich llais yn bwysig i ni a bydd gennych lawer o gyfleoedd gwahanol i rannu eich barn am yr hyn y gall y coleg ei wneud yn wahanol i’ch helpu i lwyddo. Gall hyn fod o wneud cyfleusterau’n fwy hygyrch i sicrhau bod eich amserlen yn addas.

64 Undeb y Myfyrwyr

UNDEB Y MYFYRWYR

Fel myfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydych chi’n aelodau o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd gennym i’w gynnig, gan gynnwys digwyddiadau coleg, cynrychiolaeth myfyrwyr a gwybodaeth am fywyd myfyrwyr. Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych yn ystod eich amser yn y coleg a bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n llawn a’u safbwyntiau’n cael eu clywed. Er mwyn eich cynrychioli’n iawn fel dysgwyr, mae’n bwysig ein bod yn cael ein cyfarwyddo gan eich syniadau a’ch profiadau chi. Etholir tîm o swyddogion bob blwyddyn trwy etholiadau electronig lle caiff yr holl fyfyrwyr y cyfle i bleidleisio i’w Llywydd ac Is-lywyddion ym mis Mai. Yn dilyn hynny swyddogion rhyddid megis LGBTQ+, Swyddog Menywod ac ati ym mis Hydref. Mae’r swyddogion a etholir yn cynrychioli myfyrwyr ar draws yr holl gampysau ac yn aelodau o amrywiol bwyllgorau lle caiff eu lleisiau eu clywed. Mae llais y myfyrwyr yn rhan annatod o lwyddiant y coleg ac mae hwn yn llwyfan ardderchog i fyfyrwyr helpu i lywio’r coleg i ysbrydoli dysgwyr, cyflawni potensial ac ennill rhagoriaeth. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl trwy gysylltu ag un o’ch swyddogion myfyrwyr etholedig, cynrychiolwyr cwrs neu Lywydd Undeb y Myfyrwyr trwy anfon e-bost i Undeb y Myfyrwyr yn * studentu@colegsirgar.ac.uk

Hanna Freckleton

Llywydd:

Molly Reed Adan Jones Katja Olsen William Evans Sioned Davies Nesta Jones

Is-lywydd Aberystwyth: Is-lywydd Rhydaman: Is-lywydd Aberteifi: Is-lywydd Y Gelli Aur: Is-lywydd Y Graig: Is-lywydd Ffynnon Job: Is-lywydd Pibwrlwyd:

Andzelika Dzetaveckaite

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 65

CARDIAU NUS EXTRA / TOTUM

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i wneud cais am gerdyn aelodaeth digidol Totum rhad ac am ddim am flwyddyn gydag arbedion cyfyngedig neu gallwch chi brynu cerdyn, a fydd yn costio £14.99 y flwyddyn (neu £24.99 am 3 blynedd ar hyn o bryd) ac sy’n gallu arbed arian i chi gyda chostau teithio, dillad, adloniant a llawer mwy. Hefyd gallwch chi lawrlwytho’r ap Totum yn rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth dylech gysylltu â’r Swyddog Lles ar eich campws neu ewch i: https://www.totum.com/

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 67

68 Ystafelloedd Gweddïo Aml-ffydd

YSTAFELLOEDD GWEDDÏO AML-FFYDD

Fel dysgwr neu aelod o staff yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion mae mynediad gennych i ystafell weddïo aml-ffydd. Lleolir yr ystafelloedd ar bob safle yn y mannau canlynol. Aberystwyth Swyddfa Les Ammanford 121a Cardigan B1 F24a Gelli Aur A20 Graig A15 Jobswell B204 Pibwrlwyd A110

I gael mynediad i’r cyfleuster gofynnwch yn swyddfa’r campws ac fe fyddan nhw’n rhoi’r allwedd i’r ystafell i chi.

Llawlyfr Dysgwyr 2024 | 69

Mae’r cyngor a’r hyfforddiant a roddir gan ein darlithwyr yn wirioneddol wych.

70 Cwestiynau Cyffredin

CWESTIYNAU CYFFREDIN

1. Sut ydw i’n cysylltu â rhywun am fy absenoldebau o’r coleg? If you are absent for any reason please log this absence on the PROSPECT APP Os byddwn yn sylwi nad ydych yn y coleg am un diwrnod ac nid ydych wedi rhoi gwybod i ni, byddwn yn anfon e-bost atoch chi a’ch rhieni (os ydych dan 18 oed neu os ydych dros 18 oed ac wedi rhoi caniatâd i ni). 2. Hoffwn ddod yn llysgennad coleg, sut ydw i’n gwneud hynny? Mae pob dysgwr lefel tri, blwyddyn un, yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth llysgennad. Os hoffech chi ddod yn llysgennad coleg, llenwch ffurflen gais a chyflwynwch hi i swyddfa gampws eich prif gampws at sylw Christy Anson-Harries. 3. Pwy sy’n gallu fy nghefnogi os ydw i’n cael trafferth gyda fy nghwrs? Os ydych yn cael trafferth y peth cyntaf sydd angen i chi wneud yw siarad â’ch tiwtor cwrs a bydd yn gallu eich cynghori ynghylch eich camau nesaf. 4. Faint o’r gloch mae’r coleg yn agor ac yn cau? Mae’r campysau i gyd yn agor o 8.30am gyda mwyafrif y cyrsiau addysg bellach yn gorffen erbyn 5pm. Fodd bynnag, mae yna rai cyrsiau sy’n amrywio o ran amser oherwydd y natur alwedigaethol, er enghraifft pan fyddwch efallai angen gweithio gyda chleientiaid. Mae amserau cau’r campysau yn amrywio o 5pm i 9pm. 5. Oes rhaid i chi aros yn y coleg drwy’r dydd os nad oes gwersi gennych chi? Does dim rhaid i chi aros, fodd bynnag, ni ddylai bod angen i chi adael oherwydd gallwch chi fanteisio ar y cyfleusterau ar y safle. Mae gennym amrywiaeth o siopau coffi, cyfleusterau cantîn, llyfrgelloedd, gweithgareddau adloniadol a llawer mwy o fwynderau ar bob safle. Os ydych yn mynd oddi ar y safle, dewch nôl mewn amser i’ch gwers nesaf a chadwch yn ddiogel. 6. Oes cofrestru yn y bore? Na - Fodd bynnag bydd pob darlithydd yn marcio cofrestr. Coleg Sir Gâr Coleg Ceredigion

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online